Siarter y Rhieni


Yr ydych yma: Yr Ysgol > Siarter y Rhieni

Siarter y Rhieni yn Ysgol Sefydledig Caergeiliog.

Yn ôl Young a McGeeney dylai rhieni ac athrawon fod yn bartneriaid yn cydweithio a’i gilydd er budd y plant.

Cred fod perfformiad addysgiadol y plentyn yn well po fwyaf yw mewnbwn y rhiant.

Fel rhiant, mae gennych   hawl  i ddewis ysgol  i’ch plentyn oni bai fod pob lle yn yr ysgol honno wedi ei gymryd. Mae gennych hawl hefyd  am addysg  o safon uchel  i’ch plentyn  a’i fod  yn cael ei addysgu yn yr ysgol.

Byddwch  yn derbyn  adroddiad  ysgrifenedig  ar eich plentyn unwaith y flwyddyn. Mae croeso ichi weld gwaith eich plentyn   unrhyw amser yn ystod y flwyddyn trwy ymgynghori  â’r athro/awes. Mae’r Pennaeth ar gael i siarad â chi unrhyw amser ond pe byddech angen apwyntiad ffurfiol yna cysylltwch ag unrhyw un o  ysgrifenyddesau’r ysgol.  Rydym yn awyddus i rieni gymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol.

Bydd yr ysgol yn cofnodi presenoldeb eich plentyn, ei ymddygiad a’i gyraeddiadau academaidd.  Byddwch hefyd yn derbyn   Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr  a bydd croeso ichi drafod hyn a Swyddogion yr ysgol.

Bwriad hyn i gyd yw er mwyn i chi  fel rhieni fod yn gwybod  sut mae eich plentyn yn cael ei addysgu  ac ichi allu cynorthwyo yn y broses.  Fel rhiant mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i  sicrhau fod eich plentyn yn cael  yr addysg orau posibl a’u bod yn  mynychu yn rheolaidd a’u bod yn brydlon.

Rydym yn cymeradwyo perthynas dda rhwng  rhieni â staff. Pe byddai gennych unrhyw bryder   ynglŷn â gwaith eich plentyn yna mae croeso ichi drefnu i weld  yr athro/awes neu’r Pennaeth. Gallwch wneud apwyntiad trwy  Adran Weinyddol yr ysgol. Yn ogystal, pe byddai gan athrawon yr ysgol bryder am waith neu ymddygiad eich plentyn yna bydd yr ysgol  yn cysylltu â chwi.