Blwyddyn 3


Yr ydych yma: Dosbarthiadau > Blwyddyn 3

Mae dau athro trwyddedig yn gyfrifol am Flwyddyn 3

Yn cynorthwyo – aelodau o’r Staff Cynorthwyol (Gweler Staff yr Ysgol)

1.Mae gwisg ysgol yn orfodol. (Gweler adran Gwisg Ysgol)

2.Gall y disgyblion fynychu’r Clwb Brecwast (7:30-8:30 y bore).

*Os ydynt am fynychu’r Clwb Brecwast o 7:30 y bore ymlaen a / neu’r Clwb Wedi Ysgol o 3:40 hyd 6 o’r gloch yr hwyr yna gweler adran CLYBIAU.

Am 8:30 y bore bydd Cymorthyddion Dosbarth yn hebrwng y disgyblion i’w dosbarth.

3. Gall y disgyblion gymryd cinio ysgol neu ddod a bocs bwyd o adref. Bydd y disgyblion yn cael eu goruchwylio tra yn bwyta eu cinio ac yna byddant yn cael eu goruchwylio yn chwarae ar fuarth yr ysgol.

4. Bydd bwydlen fisol yn cael ei hanfon i’r rhieni a fydd yn amlinellu’r prydau bwyd fydd yn cael eu harlwyo ar gyfer y mis perthnasol. Dylech ddefnyddio yr App taliadau i dalu am y prydau bwyd.

5. Gall y disgyblion fynychu’r Clwb Wedi Ysgol o 3:40-6:00 yr hwyr. Bydd y cymorthyddion yn hebrwng y disgyblion i’r Clwb.

6. Ar ddechrau bob tymor bydd y rhieni yn derbyn rhestr o’r gwaith a gyflwynir i’r dysgwyr yn ystod y tymor.

7. Gofynnir yn garedig i’r rhieni, fel rhan o’r wisg ysgol, i brynu bag du i gario llyfrau darllen ayyb yn ôl ac ymlaen o’r Ysgol. Disgwylir i’r disgyblion ddod a’u llyfrau darllen gyda hwy i’r ysgol bob dydd.

8. Gofynnir yn garedig i rieni/warcheidwaid i ddarllen adref gyda’u plant o leiaf ddwywaith yr wythnos.

9. Bydd un wers Addysg Gorfforol bob wythnos.

       Dylid gwisgo siorts du plaen (ar gael o siopau lleol)

       Gallwch brynu Crys T melyn yr Ysgol o Swyddfa’r Ysgol.

       Esgidiau ymarfer/pympiau (ar gael o siopau lleol).