Yr ydych yma: Dogfennaeth > Datganiad Cenhadaeth
Mae gennym fel ysgol ymrwymiad i ‘Ansawdd ac Ardderchowgrwydd mewn Addysg.’ Oherwydd hyn rydym yn ymdrechu yn ddyddiol i sicrhau fod pob plentyn a ymddiriedir i’n gofal yn derbyn y safon uchaf posibl o addysg, safon a fydd yn hyrwyddo ei ddyfodol yn y byd. Rydym am ddatblygu'r plentyn cyfan, hyn yn seiliedig ar yr athroniaeth fod dyfodol ein bydysawd yn nwylo pob plentyn. Ein bwriad yw darparu pob plentyn ar gyfer wynebu’r sialens o ymgodymu â’u dyletswyddau fel dinasyddion y dyfodol.
Hybir y genhadaeth yma trwy ddiwylliant yr ysgol sydd wedi esblygu yn raddol dros amser. Mae’r diwylliant yma wedi ei sefydlu ar ddatblygiad cymeriad cryf, disgyblaeth ac ar hyrwyddo gwerthoedd rhagorol fel gonestrwydd, moesau a chwarae teg, parch at farn eraill a gofal at gyd ddyn. Hyrwyddir gwerthoedd o’r fath trwy yn gyntaf ddangos balchder at y wisg ysgol ac ymlyniad at yr arwyddair ‘Persto et Praesto’ – ‘Dyfalbarhaf a Rhagoraf.’
Ein gobaith yw y bydd disgyblion yr ysgol, wrth iddynt ddatblygu yn gorfforol a meddyliol, yn datblygu hefyd yn gymdeithasol ac yn ysbrydol gan gynyddu mewn hunan barch a pharch at eraill, ac yn wir mewn parch at ein byd mewn cyfanrwydd, creadigaeth Duw, y byd ble rydym yn byw ynddo.
“ Rhaid i addysg fwydo amrywiol dalentau ein plant. Rhaid iddo ehangu eu gorwelion gan ddatblygu ynddynt yr awydd i ddysgu a chaniatáu iddynt fyw bywyd yn ei lawnder. Rhaid iddo feithrin ynddynt ddatblygiad corfforol, diwylliannol, moesol ac ysbrydol a’u cynorthwyo wrth iddynt ddatblygu yn y gwerthoedd a fydd yn eu harwain i wneud penderfyniadau doeth yn eu bywydau fel oedolion."
(Cyfieithiad o ddyfyniad o Adroddiad Dearing 1993)
Trwy gyd-weithio clos yn unig y byddwn yn llwyddo yn ein Datganiad. Mae pob unigolyn sydd yn ymwneud â’r ysgol yn ymwybodol fod yr ysgol yn gofalu am bob aelod o’r ysgol, ein bod yn hyrwyddo datblygiad proffesiynol pob unigolyn gan wneud pawb yn ymwybodol fod gennym ran bwysig i’w chyflawni yn Natganiad yr ysgol.