Yr ydych yma: Dosbarthiadau > Blwyddyn 1
Mae dau athro trwyddedig yn gyfrifol am Flwyddyn 1 –
Yn cynorthwyo – aelodau o’r Staff Cynorthwyol (Gweler Staff yr Ysgol)
*Os ydynt am fynychu’r Clwb Brecwast o 7:30 y bore ymlaen a / neu’r Clwb Wedi Ysgol o 3:40 hyd 6 o’r gloch yr hwyr yna gweler adran CLYBIAU.
Am 8:30 y bore bydd Cymorthyddion Dosbarth yn hebrwng y disgyblion i’w dosbarth.
Dylid gwisgo siorts du plaen (ar gael o siopau lleol)
Gallwch brynu Crys T melyn yr Ysgol o Swyddfa’r Ysgol.
Esgidiau ymarfer/pympiau (ar gael o siopau lleol).
Mae plant yn ddysgwyr naturiol ac yn ystod y blynyddoedd ffurfiannol – pan fo’r ymennydd ar ei orau yn amsugno - mae’r broses o ddysgu ar ei lefel uchaf bosibl. Mae’r profiadau dysgu a gynigir i bob plentyn yn ffurfio sylfaen i’r holl addysg a dderbyniant i’r dyfodol a bydd yn y diwedd yn pennu eu hansawdd bywyd fel oedolyn.
Credwn fel ysgol y dylid sicrhau lle i bob plentyn ar lwybr sydd yn gyfoethog mewn cyfleoedd a phrofiadau o ansawdd.
Yn nosbarthiadau ein Cyfnod Sylfaen gallwn sicrhau fod y profiadau yma wedi eu cynllunio yn ofalus gyda’r nod o:
Trwy hyn gallwn hwyluso dyfeisgarwch pob plentyn a gosod sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.
Mae ein hamgylchedd addysgiadol yn hybu chwilfrydedd pob plentyn. Mae’n cynnig cynnwrf darganfyddiadau mewn meysydd megis:
Mae’r byd y lle newydd a chynhyrfus iawn i bob plentyn. Mae’r hyn a gymrwn yn ganiataol, fel oedolion, yn hollol newydd i blentyn. Mae oedolion yn gweld enfys fel ‘pob enfys arall’ tra fo plentyn yn gallu gweld ei ryfeddod.
Rydym felly yn hybu plant i
a
Cyflwynwn ein Cwricwlwm trwy gyfrwng dulliau sydd wedi eu profi. Nid ydym yn arbrofi gydag addysg plentyn.
Mae ‘dysgu trwy chwarae’ wedi bodoli erioed - ac fe fydd i’r dyfodol yn rhan allweddol ym mhroses addysgu plentyn o’i eni hyd ei flynyddoedd cynnar. Yn ystod profiadau cynnar plentyn yn ein Grŵp Chwarae ac yn y Feithrinfa mae’r Cwricwlwm yn gudd o fewn awyrgylch hwyliog o chwarae addysgiadol.
Mae chwarae addysgiadol sydd wedi ei gynllunio yn ofalus yn hwyl ac nid yw’n rhoi unrhyw bwysau dianghenraid ar blentyn yn ystod ei flynyddoedd ffurfiannol. Mae’r pwyslais yn cael ei roi ar ddatblygu hunan werthfawrogiad trwy gydnabod fod pob plentyn yn arbennig ac unigryw. Trwy hyn mae pob plentyn yn cael ei gymell i ddeall perthnasedd bod yn rhan o’r blaned fawr rydym yn perthyn iddi - os y cant y dechrau gorau posibl mewn bywyd yna bydd rhwyddineb yn dilyn weddill eu bywydau.
Ein nod ar gyfer y plant yw iddynt ddysgu sgiliau ystyrlon a fydd o werth iddynt trwy gydol eu bywydau:
• tyfu fyny gyda chyfeillgarwch
• parchu a darganfod harddwch ym mhawb
• parchu pob creadur byw sydd yn rhannu'r blaned gyda ni
Dysgu pwysigrwydd arferion a rheolweithiau dyddiol fel
bwyta yn iach
gofalu amdanynt ei hunain
a
gofalu am yr amgylchfyd.
Rydym yn hybu’r dysgwyr i archwilio’r byd-
i ofyn mwy a mwy o gwestiynau
ac yna
gyda’n gilydd byddwn yn canfod yr atebion
mewn llyfrau ac ar gyfrifiaduron
Mae plant yn greadigol tu hwnt. Byddwn yn maethu a datblygu'r creadigrwydd yma trwy wrando ar eu storïau lliwgar am wahanol lefydd a storïau am bethau dychmygol.
Caniatawn y rhyddid i blant i fynegi ei hunain yn llawn.
Mae’r addysgu yn cael ei arwain gan feddwl aeddfed yr athro/awes a fydd wedi cynllunio'r profiadau addysgu yn ofalus.
Bydd yr athro/awes a’r Tîm Addysgu Cefnogol yn meithrin pob plentyn yn unol â’i
oed,
gallu
a
thueddfryd
er mwyn manteisio ar y budd a gaed o’r darganfyddiadau hyfryd a wnaed trwy gydol y dydd.
Trwy hyn, yn raddol, bydd y dysgwyr yn dechrau magu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dysgu mwy ffurfiol.