Fel rhan o ymrwymiad yr ysgol i ‘wasanaeth o ofal’ mae brecwast yn cael ei gynnig i’r disgyblion.
Manylion fel a ganlyn:
- Cynhelir y Clwb Brecwast ym mhrif neuadd yr ysgol.
- Cynhelir y Clwb Brecwast rhwng 7:30 a 8:30 bob bore.
- Yn gyfrifol am y Clwb mae Person Cofrestredig sydd hefyd yn athrawes yn yr ysgol. Y Person â Gofal yw Miss Lowri Owen. Fe’i cefnogir gan dîm o oruchwylwyr sydd yn aelodau o staff cynorthwyol yr ysgol.
- Trefnir y gwasanaeth a’r fwydlen brecwast gan rheolwraig arlwyo'r ysgol.
- Bydd y rheolwraig ac aelod arall o wasanaeth arlwyo'r ysgol yn gofalu am anghenion y plant yn ystod y Clwb.
- Bydd yr eitemau a gynigir ar gyfer brecwast y plant yn unol â Chynllun Ysgolion Iach y Cynulliad Cenedlaethol Cymreig.
*Dylech hysbysu’r staff os oes gan eich plentyn unrhyw anghenion dietegol neu alergedd bwyd penodol
- Bydd plant y Clwb Brecwast hefyd yn cael cyfle i ddarllen, chwarae gemau bwrdd, gwylio rhaglenni teledu / fidio.
- Mae’r Clwb yn gweithredu o fewn gweithdrefnau a systemau diogelwch yr ysgol.
- Arolygir y Clwb Brecwast gan aelodau o Uwch Athrawon yr ysgol.
- Bydd CIW (corff arolygu safonau) yn arolygu'r clwb yn rheolaidd.
Ymhlith y goruchwylwyr mae:
- Samantha Griffiths
- Aimee Spiller
- Lianne Taylor-Hayhurst
- Amber Jones-Williams
- Sarah Williams
- Megan Round
- Georgia Sutton
Nod
- Darparu gofal o ansawdd i’n dysgwyr ar ôl oriau ysgol
gyda ystod eang o weithgareddau mewn awyrgylch groesawgar.
Nifer y plant
- Gallwn ofalu am hyd at 50 o blant.
Iaith a Ddefnyddir
Polisi Derbyn
- Gofynnir i rieni/ofalwyr gwblhau cytundeb ymlaen llaw.
- Os oes achos i gwyno, rhowch wybod i aelod o staff.
- Gallwch hefyd gysylltu â
CIW ar 03007900126
Gwybodaeth
- Rydym yn gofalu am blant o’r Grŵp Chwarae (2.5 mlwydd oed) hyd Flwyddyn 6 (12 mlwydd oed).
- Mae’r goruchwylwyr yn ddwyieithog.
- Rydym yn sicrhau amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.
- Am wybodaeth ychwanegol gweler ein taflenni gwybodaeth.