Yr ydych yma: Dosbarthiadau > Blwyddyn 4
Mae dau athro trwyddedig yn gyfrifol am Flwyddyn 4
- Miss Lisa Ellis Roberts
- Miss Elizabeth Owens
Yn eu cynorthwyo mae aelodau o’r Staff Cynorthwyol (Gweler Staff)
Gall y disgyblion fynychu’r Clwb Brecwast (7:30-8:30 y bore). Bydd y disgyblion yn cael eu goruchwylio a’u hebrwng i’w dosbarthiadau am 8;30.
Gall y disgyblion fynychu’r Clwb Wedi Ysgol o 3:40-6:00 yr hwyr. Bydd y cymorthyddion yn hebrwng y disgyblion i’r Clwb. Gweler CLYBIAU.
Gwisg Ysgol
Mae gwisg ysgol yn orfodol. (Gweler adran Gwisg Ysgol)
Gweler GWISG YSGOL am restr o’r wisg a sut i’w harchebu gan yr ysgol.
Addysg Gorfforol.
Bydd 1 wers Addysg Gorfforol bob wythnos.
Bydd 1 wers Gemau bob wythnos, ar ddydd Gwener.
Dylid gwisgo:
Cylchlythyrau
Ar ddechrau bob tymor bydd rhieni yn derbyn rhestr o’r gwaith a gyflwynir i’r dysgwyr yn ystod y tymor.
Gofynnir yn garedig i’r rhieni, fel rhan o’r wisg ysgol, i brynu bag du i gario llyfrau darllen ayyb yn ôl ac ymlaen o’r Ysgol. Disgwylir i’r disgyblion ddod a’u llyfrau darllen gyda hwy i’r ysgol bob dydd. Gofynnir yn garedig i rieni/warcheidwaid i geisio darllen adref gyda’u plant bob nos os yn bosibl.
Byr brydau a Chinio
Mae croeso i’r disgyblion ddod a byr bryd iachus neu ffrwyth gyda hwy i’r ysgol i’w fwyta yn ystod yr egwyl.
Gall y disgyblion gymryd cinio ysgol neu ddod a bocs bwyd o adref. Bydd y disgyblion yn cael eu goruchwylio yn ystod eu hegwyl a’u hamser cinio.
Bydd bwydlen fisol yn cael ei hanfon i’r rhieni.
Os oes gan eich plentyn unrhyw anghenion deietegol dylech eu trafod ymlaen llaw gyda’r Cofrestrydd.
Dylech ddefnyddio yr App taliadau i dalu am y prydau bwyd.