Croeso


Croeso cynnes i chi i wefan Ysgol Sefydledig Caergeiliog! Ymfalchïwn yn ein statws Sefydledig.  Mae awyrgylch gyffrous ac ysgogol yn bodoli o fewn campws yr ysgol a phrif ffocws pob aelod o weithlu’r ysgol yw i sicrhau ‘Ansawdd a Rhagoriaeth o fewn Addysg’ a ‘Gwasanaeth o Ofal.’ Mae arwyddair yr ysgol yn deillio o’r Lladin sef ‘Persto et Praesto’ sy’n cyfieithu i olygu ‘Dyfal barhaf a Rhagoraf.’  Prif weledigaeth yr ysgol yw anelu yn ddyddiol at ragoriaeth tra yn ymlynnu hefyd at ddulliau addysgu sydd wedi eu profi. Cefnogwn yr iaith Gymraeg o fewn ei cyd-destun cymdeithasol. Hyrwyddir pob plentyn i fod yn ddinesydd dwyieithog hyderus.

*Mae croeso i chi ymweld â’r ysgol. *Ein dymuniad pennaf fel Ysgol yw i fagu partneriaeth lwyddiannus gyda chi’r rhieni a’r teulu ehangach.

* O ganlyniad i gyfyngderau Covid-19 bydd trefniadau arbennig yn cael eu gwneud ar eich cyfer pe byddech yn dymuno ymweld â’r ysgol yn bersonol

Ein Gwerthoedd


Mae’r ysgol yn falch o’i diwylliant sydd wedi ei sylfaenu ar hunanbarch a pharch at eraill. Rydym yn anelu i gynnig ‘y dechreuad gorau posibl’ a Sylfaen a fydd yn eu darparu i gydweithio gyda eraill yn yr ysgol, mewn addysg bellach ac yn y gymuned ehangach. Yn Ysgol Sefydledig Caergeiliog mae gweithlu awyddus, brwdfrydig a gweithgar sydd yn ddyddiol yn mynnu fod y safonau uchaf posibl yn cael eu cyflawni a’u cynnal. Craidd ein llwyddiant yw’r cydweithio a chydweithredu sy’n mynd ymlaen rhwng yr athrawon,y Llywodraethwyr, y rhieni a’r disgyblion. Annogir cyfraniad ein Prif Ddisgyblion ynghyd â’r Cyngor Ysgol ac aelodau’r holl Bwyllgorau eraill a chânt le amlwg yng ngweithrediad dyddiol yr ysgol. Gwerthfawrogir barn y dysgwyr ar safonau’r ysgol ac fe’i hannogir i hunan arfarnu yn gyson fel bod yr effaith yn gadarnhaol ar fywyd yr ysgol.