Ysgol Sefydledig Caergeiliog


Yr ydych yma: Dogfennaeth > Ysgol Sefydledig Caergeiliog

Lleolir Ysgol Sefydledig Caergeiliog ym mhentref Caergeiliog ar Ynys Môn. Mae 407 o ddisgyblion yn yr ysgol sydd rhwng 3 a 11 mlwydd oed gan gynnwys 44 o ddisgyblion Meithrin. Mae 14eg o ddosbarthiadau oedran unigol yn ogystal â dau ddosbarth Meithrin (un ohonynt yn wirfoddol) a Chrèche sy’n wirfoddol. Rhoddir mynediad rhan amser i ddisgyblion Meithrin ar ddechrau’r flwyddyn academaidd yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed.

Mae’r ysgol yn dennu disgyblion o’r pentref ei hun, o orsaf y Llu Awyr Brenhinol yn Fali, ardaloedd cyfagos ac o bellteroedd fel Bangor a Llandudno.

Mae oddeutu 15% o’r disgyblion yn derbyn prydau am ddim.

Prif iaith cartrefi mwyafrif y disgyblion yw Saesneg. 6% o’r disgyblion yn unig sydd yn siarad Cymraeg adref gydag un rhiant neu fwy. Mae 5.7% o’r disgyblion yn dysgu Cymraeg fel 3ydd iaith.

Mae 13% o ddysgwyr yr ysgol ar y gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Strwythyr Rheolaethol yr Ysgol

O dan y system reolaethol newydd, mae’r strwythyr fel a ganlyn:

Cyfarwyddwr Gweithredol a Phennaeth – Mr Richard Williams

Rheolwraig Gweithrediadau – Mrs Margaret Roberts

Dirprwy Bennaeth – Mr Simon Browne

Pennaeth Cynorthwyol – Miss Karina Jones