Y Feithrinfa


Yr ydych yma: Dosbarthiadau > Y Feithrinfa

Arweinydd Cyfnod Sylfaen – Lindsea Roberts

Rheolwraig y Grwp Chwarae a’r Feithrinfa  – Rachel Ode

Yn ei chefnogi - Staff cynorthwyol (gweler ‘Staff yr Ysgol)

  1. Gall disgyblion oed Meithrin fynychu’r Feithrinfa am hanner diwrnod neu trwy gydol y dydd (9:00 y bore – 3:40 y prynhawn).

*Os ydynt am fynychu’r Clwb Brecwast o 7:30 y bore ymlaen a / neu’r Clwb Wedi Ysgol o 3:40 hyd 6 o’r gloch yr hwyr yna gweler adran CLYBIAU.

2.Mae’r Wisg Ysgol y orfodol yn y Feithrinfa. Gweler manylion y Wisg Ysgol.

3.Gall ddisgyblion y Feithrinfa fynychu'r Clwb Brecwast (7:30-8:30 y bore). Am 8:30 y bore bydd ein Cymorthyddion Meithrin yn hebrwng y disgyblion i’r Feithrinfa.

4.Gall disgyblion y Feithrinfa aros yn yr Ysgol dros yr awr ginio gan gymryd cinio ysgol neu ddod a bocs bwyd gyda hwy. Bydd y disgyblion yn cael eu goruchwylio drwy gydol yr awr ginio.

5.Gall disgyblion y Feithrinfa aros yn ein Clwb Wedi Ysgol o 3:40-6:00 yr hwyr. Bydd y disgyblion yn cael eu hebrwng yno gan ein Cymorthyddion Meithrin.

6.Gweler y daflen COSTAU sy’n dilyn am amlinelliad o gôst Gwisg Ysgol, Cinio Ysgol a sesiynau’r Feithrinfa. Bydd rhaid talu am bob sesiwn a gadwer – hyd yn oed os nad   yw’r disgybl yn bresennol.

Bydd 1 wers Addysg Gorfforol yr wythnos.

Y wisg Addysg Gorfforol yw:

Siorts du plaen (ar gael o siopau lleol)

        Crys T melyn yr ysgol – gallwch ei brynu yn yr Ysgol

        Esgidiau ymarfer du gyda ‘felcro’ i’w cau (ar gael o siopau lleol)

Ein Hathroniaeth.

Mae plant yn ddysgwyr naturiol ac yn ystod y blynyddoedd ffurfiannol – pan fo’r ymennydd ar ei orau yn amsugno - mae’r broses o ddysgu ar ei lefel uchaf bosibl. Mae’r profiadau dysgu a gynigir i bob plentyn yn ffurfio sylfaen i’r holl addysg a dderbyniant i’r dyfodol a bydd yn y diwedd yn pennu eu hansawdd bywyd fel oedolyn.

Credwn fel ysgol y dylid sicrhau lle i bob plentyn ar lwybr sydd yn gyfoethog mewn cyfleoedd a phrofiadau o ansawdd.

Yn nosbarthiadau ein Cyfnod Sylfaen gallwn sicrhau fod y profiadau yma wedi eu cynllunio yn ofalus gyda’r nod o:

  • sicrhau amgylchfyd hapus, iachus a diogel i ddysgu
  • gyfoethogi gallu creiddiol pob plentyn i ddysgu
  • ddatblygu chwilfrydedd pob plentyn am ddysgu
  • hyrwyddo eiddgarwch pob plentyn i ddysgu

       annog creadigrwydd pob plentyn

Trwy hyn gallwn hwyluso dyfeisgarwch pob plentyn a gosod sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.

Mae ein hamgylchedd addysgiadol yn hybu chwilfrydedd pob plentyn. Mae’n cynnig cynnwrf darganfyddiadau mewn meysydd megis:

  • llythrennedd
  • rhifyddeg
  • gwyddoniaeth
  • gwybodaeth/ cymhwysedd digidol
  • arlunio
  • chwarae dramatig a cherddoriaeth

Mae’r byd y lle newydd a chynhyrfus iawn i bob plentyn. Mae’r hyn a gymrwn yn ganiataol, fel oedolion, yn hollol newydd i blentyn. Mae oedolion yn gweld enfys fel ‘pob enfys arall’ tra fo plentyn yn gallu gweld ei ryfeddod.

Rydym felly yn hybu plant i

  • arbrofi
  • deimlo

a

  • phrofi'r byd o’u hamgylch a thrwy hynny gael eu cyfareddu  gan hynodrwydd darganfyddiadau newydd.

Cyflwynwn ein Cwricwlwm trwy gyfrwng dulliau sydd wedi eu profi. Nid ydym yn arbrofi gydag addysg plentyn.

Mae ‘dysgu trwy chwarae’ wedi bodoli erioed - ac fe fydd i’r dyfodol yn rhan allweddol ym mhroses addysgu plentyn o’i eni hyd ei flynyddoedd cynnar. Yn ystod profiadau cynnar plentyn yn ein Grŵp Chwarae ac yn y Feithrinfa mae’r Cwricwlwm yn gudd o fewn awyrgylch  hwyliog o chwarae addysgiadol.

Mae chwarae addysgiadol sydd wedi ei gynllunio yn ofalus yn hwyl ac nid yw’n rhoi unrhyw bwysau dianghenraid ar blentyn yn ystod ei flynyddoedd ffurfiannol. Mae’r pwyslais yn cael ei roi ar ddatblygu hunan  werthfawrogiad trwy gydnabod fod pob plentyn yn arbennig ac unigryw. Trwy hyn mae pob plentyn yn cael ei  gymell  i ddeall perthnasedd bod yn rhan o’r blaned fawr rydym yn perthyn iddi - os y cant y dechrau gorau posibl mewn bywyd yna bydd rhwyddineb yn dilyn weddill eu bywydau.

Ein nod ar gyfer y plant yw iddynt ddysgu sgiliau ystyrlon a fydd o werth iddynt trwy gydol eu bywydau:

  • tyfu fyny gyda chyfeillgarwch
  • parchu a darganfod harddwch ym mhawb
  • parchu pob creadur byw sydd yn rhannu'r blaned gyda ni

Dysgu pwysigrwydd arferion a rheolweithiau dyddiol fel 

bwyta yn iach

        gofalu amdanynt ei hunain

             a

                            gofalu am yr amgylchfyd.

Rydym yn hybu’r dysgwyr i archwilio’r byd-

              i ofyn mwy a mwy o gwestiynau

                     ac yna

                          gyda’n gilydd byddwn yn canfod yr atebion

                                      mewn llyfrau ac ar gyfrifiaduron

Mae plant yn greadigol tu hwnt. Byddwn yn maethu a datblygu'r creadigrwydd yma trwy wrando ar eu storïau lliwgar am wahanol lefydd a storïau am bethau dychmygol.

Caniatawn y rhyddid i blant i fynegi ei hunain yn llawn.

Mae’r addysgu yn cael ei arwain gan feddwl aeddfed yr athro/awes a fydd wedi cynllunio'r profiadau addysgu yn ofalus.

Bydd yr athro/awes a’r Tîm Addysgu Cefnogol yn meithrin pob plentyn yn unol â’i

oed,

    gallu

          a

             thueddfryd

er mwyn manteisio ar y budd a gaed o’r darganfyddiadau hyfryd a wnaed trwy gydol y dydd.

Trwy hyn, yn raddol, bydd y dysgwyr yn dechrau magu’r  sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dysgu mwy ffurfiol.