Yr ydych yma: Dosbarthiadau > Grwp Chwarae
Mae cymhareb staff i blentyn o 1:4 yn y Grwp Chwarae. Cymorthyddion Cyfnod Sylfaen cymwysedig sydd yn gyfrifol am y Grwp Chwarae.
Gall plentyn ymuno â’r Grwp Chwarae y diwrnod ar ôl iddo /iddi ddathlu ei benblwydd/phenblwydd yn 30 mis oed. *Cyn hyn gall eich plentyn fynychu Crèche Blagur Haf o fod yn 6 wythnos oed hyd oed Grwp Chwarae.
Mae pob sesiwn Grwp Chwarae yn 2.5 awr o hyd.
Sesiwn foreol - 9:00 hyd 11:30 y bore.
Sesiwn prynhawn - 1:00 hyd 3:30 y prynhawn
Gall ddisgyblion y Grwp Chwarae fynychu’r Clwb Brecwast (7:30- 8:30 y bore). Bydd y disgyblion yn cael eu goruchwylio a’u hebrwng i’r Grwp Chwarae.
Gall disgyblion y Grwp Chwarae fynychu’r Clwb Wedi Ysgol (3:30-6:00 yr hwyr). Bydd y disgyblion yn cael eu goruchwylio a’u hebrwng i’r Clwb Wedi Ysgol.
Y wisg Addysg Gorfforol yw: