Yr ydych yma: Yr Ysgol > Nod Yr Ysgol
Nod yr ysgol yw hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, meddyliol a chorfforol y plentyn.
Mae’r ysgol yn an-enwadol ond mae ei haddysg wedi ei sylfaenu ar ethos Cristnogol.
Mae’r ysgol yn anelu i sicrhau fod pob plentyn yn cyrraedd ei lawn botensial ac yn tyfu i fod yn aelodau cyfrifol o gymdeithas.
Nodau penodol ar gyfer ein dysgwyr:
1. I gynorthwyo pob disgybl i fod yn aelod hapus o amgylchfyd yr ysgol.
2. I ddarllen:
a. yn rhugl a chywir gyda dealltwriaeth.
b. er mwynhad
3. I dderbyn a datblygu:
a. Y safon uchaf posibl o sillafu, cystrawen, atalnodi a defnydd o iaith.
b. Llawysgrif ddarllenadwy yn dangos steil yr unigolyn
4.I wrando yn astud gyda dealltwriaeth.
5. I gyfathrebu yn glir a hyderus yn llafar ac ysgrifenedig mewn ffyrdd priodol sy’n gweddu i wahanol achlysuron a phwrpasau
6. I ddysgu sut i ddarganfod gwybodaeth o wahanol ffynonellau gan ddefnyddio sgiliau cyfeirio priodol i gofnodi gwybodaeth a darganfyddiadau mewn amryw ffyrdd.
7.I ddefnyddio sgiliau cyfrifiadurol yn gyflym a chywir
8.I hyrwyddo’r gallu i ddefnyddio sgiliau mathemategol mewn sefyllfaoedd dyddiol.
9.I hyrwyddo‘r dealltwriaeth o iaith fathemategol.
10.I gyflwyno’r gwerthfawrogiad o batrymau, trefn a pherthynas.
11.I gyflwyno a hyrwyddo’r ddealltwriaeth o syniadau sylfaenol gwyddonol.
12. I arsylwi gwrthrychau byw a difywyd ac i gydnabod priodweddau megis patrymau a threfn.
13.I ddehongli canlyniadau yn dilyn arbrofion,dadansoddi a datrys problemau.
14.(a) I barchu teimladau pobl, eu heiddo a’u barn.
(b) I hyrwyddo hunan ddisgyblaeth a safon dderbyniol o ymddygiad.
(c) I fod yn onest, ffyddlon a geirwir
15. I ddarparu amgylchedd i ddatblygu yn ysbrydol.
16.I fod yn ymwybodol o agweddau daearyddol, hanesyddol a chymdeithasol o’r ardal leol a’r dreftadaeth genedlaethol ac i fod yn ymwybodol o amser a lleoedd.
17.I ddarparu’r cyfleoedd a’r adnoddau angenrheidiol i ddefnyddio cerddoriaeth, drama, celf a chrefft fel modd i fynegi ac i fwynhau a gwerthfawrogi ystod eang o gelf fynegiannol.
18.I ddatblygu ystwythder, cydsymud a hyder mewn a thrwy weithgareddau corfforol a’r gallu i fynegi teimladau trwy symudiadau.
19.I ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad corfforol a hamdden.
20. I brofi ymwybyddiaeth o’r corff a’i allu.
21.I ddysgu cydweithredu gydag eraill, a thrwy hynny, gynnig profiadau gwerthfawr o waith tîm.