Yr ydych yma: Dosbarthiadau > Dosbarth Derbyn
Mae dwy athrawes gymwysedig yn gyfrifol am y Dosbarthiadau Derbyn. Fe’i cefnogir gan Gymorthyddion Cyfnod Sylfaen cymwysedig.
Gall ddisgyblion Y Dosbarth Derbyn fynychu’r Clwb Brecwast (7:30- 8:30 y bore). Bydd y disgyblion yn cael eu goruchwylio a’u hebrwng i’w dosbarthiadau.
Gall disgyblion Y Dosbarth Derbyn fynychu’r Clwb Wedi Ysgol (3:30-6:00 yr hwyr). Bydd y disgyblion yn cael eu goruchwylio a’u hebrwng i’r Clwb Wedi Ysgol.
Gwisg Ysgol:
Y wisg Addysg Gorfforol yw:
Bydd pob rhiant yn derbyn Cylchlythyr Tymhorol gydag amlinelliad o waith y tymor wedi ei gynnwys ynddo.
Disgwylir i bob disgybl gael ‘bag du cario llyfrau darllen’ – ar gael o Swyddfa’r Ysgol. Dylid dod a’r bag a’r llyfrau darllen/ cardiau fflach i’r ysgol bob dydd. Disgwylir i rieni/warcheidwaid ddarllen gyda’u plant lleiafswm o ddwywaith yr wythnos.
Mae croeso i ddisgyblion y Dosbarth Derbyn ddod a byrbryd iach gyda hwy i’r ysgol i’w fwyta yn ystod yr egwyl.
Gall ddisgyblion ddewis Cinio Ysgol neu ddod a bocs bwyd o adref gyda hwy. Mae’r disgyblion yn cael eu goruchwylio yn ystod yr egwyl ac yn ogystal â’r awr ginio.
Os oes gan unrhyw blentyn anghenion dietegol penodol, yna bydd disgwyl ichwi fod wedi eu trafod ymlaen llaw gydag Arweinydd y Blynyddoedd Cynnar.
*Gweler Cinio Ysgol am esiampl o fwydlen fisol.