Yr ydych yma: Dogfennaeth > Hanes yr Ysgol
Y dechreuad………
Mae hanes dechreuad Ysgol Caergeiliog yn mynd yn ôl i’r ddeunawfed ganrif pan oedd addysg yn cael ei gynnig fel rhan o’r system Ysgolion Cylchynol. Lleolwyd yr ysgol gyntaf yn Llanfair yn Neubwll sef ardal sydd tua dwy filltir i’r de orllewin o’r ysgol bresennol.
Byr hoedlog fu hanes yr ysgol yma,nid oedd yn fwy na maint un dosbarth unigol erbyn heddiw. Ni ystyriwyd adeiladu ysgol o gwbl gan y byddai'r addysgu yn digwydd mewn unrhyw le a oedd yn gyfleus ac yn gwneud y tro - byddai'r eglwys leol neu dŷ fferm yn dderbyniol.
Yn y ‘dosbarth’ yma yng Nghaergeiliog yr unig bwnc a ddysgwyd oedd darllen gyda phwyslais enfawr ar y llith eglwysig.
Caergeiliog cyn 1870.
Wedi cyfnod yr Ysgolion Cylchynol roedd y cyfleusterau addysgiadol yn brin iawn hyd ffyniant yr Ysgolion Sul ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Personau Eglwysig oedd yn bennaf gyfrifol am yr addysgu dyddiol a sefydlwyd rhwydwaith o Ysgolion Cenedlaethol trwy’r wlad trwy gyfrwng Cymdeithas Genedlaethol. Dyma oedd y cam nesaf yn hanes Ysgol Caergeiliog pryd yr agorwyd Ysgol Genedlaethol Llanfihangel yn Nhywyn, ardal a oedd brin chwarter milltir i’r de orllewin o’r man lle lleolir Ysgol Caergeiliog erbyn heddiw. Saif yr hen adeilad hyd heddiw.
Ysgol Caergeiliog wedi’r Ddeddf Addysg Forster 1870.
Wynebodd Ysgol Caergeiliog lawer o newidiadau wedi i Ddeddf Forster ddod i rym yn 1870. Gwleidydd Prydeinig oedd William Forster (1818 - 1886) a oedd yn frawd yng nghyfraith i Mathew Arnold y bardd Saesneg. Roedd yn aelod seneddol etholedig Bradford yn 1861, swydd y bu ynddi hyd ddiwedd ei oes.
Penodwyd Forster yn ddirprwy lywydd Pwyllgor y Cyngor ar addysg yn 1868 ac yn 1870 cyflwynodd Ddeddf Addysg ddiwygiedig. Bu cryn ddadlau ynglŷn â’r mesur seneddol yma cyn y’i derbyniwyd.
Trwy gyfrwng y Ddeddf Addysg yma yn 1870 rhoddodd y Llywodraeth grantiau hael i’r ysgolion gwirfoddol a rhoddwyd caniatâd iddynt ethol Pwyllgorau Addysg ymhob ardal . Roedd yn ofynnol i’r Pwyllgorau yma sefydlu Ysgolion Bwrdd gyda chymorth y grantiau gan y Llywodraeth. Roedd y Ddeddf yma hefyd yn sicrhau fod pob ysgol yn cael ei harchwilio.
Tra caniateid i ysgolion gwirfoddol barhau roedd y system ddeuol yma o addysg wirfoddol ac ysgolion bwrdd yn destun dadlau cynyddol !
Yr Ysgol, ar dro'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ar ddechrau'r ganrif yma symudodd yr ysgol i’r man ble y mae yn bresennol ac fe’i hagorwyd fel ysgol dau ddosbarth.
Ysgol Caergeiliog o 1940 – 1963 – carreg filltir arwyddocaol yn ei hanes.
Yn 1939 wynebodd yr ysgol y posibilrwydd o orfod cau o ganlyniad i nifer isel o ddisgyblion. Mae Llyfr Cofnod swyddogol yr ysgol yn nodi mai dim ond naw disgybl oedd yn mynychu. Yn ystod y cyfnod yma roedd safle'r Llu Awyr yn datblygu yn raddol ac roedd Y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi penderfynu mai Ysgol Caergeiliog fyddai yn cael ei dewis ar gyfer plant y Llu Awyr. Dyma’r amser y dechreuodd y cysylltiad rhwng yr ysgol â’r Llu awyr. Trwy gyfrwng y cysylltiad yma rhoddwyd cyfle o’r newydd i Ysgol Caergeiliog. Yn y flwyddyn 2000, dathlodd yr ysgol 60 mlynedd o gysylltiad llewyrchus rhwng yr ysgol â’r Llu Awyr.
O 1940 hyd 1960 cynyddodd nifer y disgyblion yn yr ysgol ac er i’r ysgol brofi cynnydd mewn adeiladau digwyddodd y newid mwyaf arwyddocaol yn 1963 pryd yr ail adnewyddwyd yr ysgol yn gyfan gwbl gydag ychwanegiad dosbarthiadau newydd, neuadd a chegin.
Ysgol Caergeiliog o 1963 hyd 1991.
Yn ystod y cyfnod yma parhaodd nifer y disgyblion i gynyddu gan adlewyrchu poblogrwydd cynyddol yr ysgol fel sefydliad addysgiadol.
Ysgol Caergeiliog o 1992 hyd 1993 – carreg filltir arall yn ei hanes.
Yng Ngorffennaf 1992, pleidleisiodd y rhieni i’r ysgol gael ei phenodi yn Ysgol Cynhaliaeth Trwy Grant. Ar Ebrill 1af, 1993 derbyniodd Ysgol Caergeiliog y statws anrhydeddus o fod yr Ysgol Cynhaliaeth Trwy Grant gyntaf yng Nghymru.
Datblygiadau ers 1993.
Yn 1993 cafodd yr ysgol adeilad dwbl newydd i ganiatáu lle i’r cynnydd yn niferoedd y disgyblion yn yr ysgol.
Yng Ngorffennaf 1994, dechreuodd y gwaith o godi adeilad ac ynddo bedwar dosbarth newydd ynghyd ag ystafelloedd arlunio moethus.
Yn 1996, daeth yr ysgol yn berchen ar ddwy acer o dir i’w defnyddio ar gyfer Addysg Gorfforol.
Yn 1996, cafodd yr ysgol berchnogaeth ar Ganolfan Awyr-Agored sydd yn cynnig pum acer ar hugain o dir a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau all-gwricwlaidd fel gwersylla a chyfeiriannu.
Ym Mawrth 1997 cwblhawyd y gwaith ar faes parcio newydd i’r ysgol.
Ym Mawrth 1997, symudwyd Meithrinfa'r ysgol a oedd wedi ei sefydlu ers 1982 i’w hadeilad newydd.
Yn Chwefror 1997, wedi i’r ysgol fynd trwy’r broses o argraffu’r cynigion angenrheidiol er mwyn ehangu’r ysgol yn sylweddol i roi lle i 400 o ddisgyblion, derbyniodd yr ysgol Grant Mentr i Ysgolion Poblogaidd gan y Llywodraeth a oedd werth £500,000. Cawsom Bafiliwn Mabolgampau, cegin newydd ac adeilad tri dosbarth newydd gyda’r arian.
Yn Awst 1998, wedi argraffu’r cynigion angenrheidiol unwaith eto, cawsom yr hawl i dderbyn disgyblion o oed 3 hyd 11 oed.
Ym Mawrth 2000, cafodd yr ysgol adeilad ‘Lliliput’ newydd, moethus a phwrpasol ar gyfer ein Meithrinfa ar gyfer y plant ieuengaf.
Yn 2001, daeth yr ysgol yn berchen ar bedair acer ar ddeg o dir yn ychwanegol i’w ddefnyddio ar gyfer Addysg Gorfforol.
Yng Ngorffennaf 2001, cafodd staff yr ysgol Ystafell Athrawon newydd.
Yng Ngorffennaf 2004, prynodd yr ysgol adeilad dau ddosbarth newydd gydag ystafell newid a thoiledau ynddo ar gyfer disgyblion Blwyddyn 1.
Yn Awst 2004, cafodd yr ysgol adeilad newydd. Defnyddiwyd un o’r ystafelloedd ynddo fel Canolfan Gyfrifiaduron, yn cynnwys 20 cyfrifiadur, technoleg gyfrifiadurol amrywiol ynghyd â Byrddau Gwyn Rhyngweithiol.
Yn yr ystafell ynghlwm â’r Ganolfan Gyfrifiadurol sefydlwyd ein Huned Iaith newydd ar gyfer dysgu Cymraeg,Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg.
Ym Medi 2011 cafodd yr ysgol Ddosbarthiadau Derbyn newydd, wedi ei adeiladu yn bwrpasol ar gyfer dysgwyr 4-5 oed.
Yn 2012 ehangwyd ardaloedd Addysgu Awyr Agored yr ysgol.
Yn 2016 addaswyd adeilad yn arbennig ar gyfer dysgwyr o oedran 3 mis hyd 3 mlwydd oed sef Crèche Blagur Haf. Ymestynnwyd y Maes Parcio hefyd i gynnig lle i 90 o geir.
Yn 2019 derbyniodd yr ysgol ganiatâd cynllunio ar gyfer adeiladu Uned Iaith Gymraeg er mwyn hyrwyddo a hwyluso ein hymrwymiad i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol.
Yn 2021 gwnaeth yr ysgol gais cynllunio am adeilad crèche ychwanegol ar gyfer dysgwyr o oedran 3 mis hyd 3 mlwydd.