Yr ydych yma: Dosbarthiadau > Meithrinfa Ysgolheigion Bach
Mae ein Hysgol wedi darparu ar gyfer plant meithrin ers 1982.
Ym Meithrinfa Ysgolheigion Bach rydym yn darparu gofal plant ac addysg o safon i blant rhwng 6 mis a 3 oed mewn amgylchedd hamddenol a gofalgar gan staff profiadol.
Lleolir Meithrinfa Ysgolheigion Bach/Little Scholars’ ar safle Ysgol Sefydledig Caergeiliog.
Ein cyfeiriad cyswllt yw:
At sylw: Lindsea Roberts (Person Cofrestredig)
Meithrinfa Ysgolheigion Bach/Little Scholars’ Nursery
Ysgol Sefydledig Caergeiliog
Lôn Bach
Caergeiliog.
Ynys Môn
LL65 3NP
Ffon (01407) 740619
Dydd Llun i ddydd Gwener 7:30am – 6:00pm
Ar agor 50 wythnos y flwyddyn
Ffoniwch i gael y prisiau diweddaraf
Dylid gwneud taliadau trwy drosglwyddiad banc ac mae eu hangen yn wythnosol - neu'n fisol ymlaen llaw.
Byddem bob amser yn argymell eich bod yn gweld yr Uned cyn gwneud eich penderfyniad terfynol i leoli eich plentyn gyda ni. Yn dilyn eich ymweliad â Meithrinfa Ysgolheigion Bach mae’r broses gofrestru fel a ganlyn:
Byddwn yn gwirio ein hargaeledd i sicrhau bod y dyddiau neu'r sesiynau sydd eu hangen arnoch ar gael. Os yw eich sesiynau gofynnol ar gael byddwn yn rhoi Ffurflenni Cofrestru’r Uned i chi.
Os nad yw eich diwrnodau neu sesiynau gofynnol ar gael gallwch ddewis rhoi eich plentyn ar ein Rhestr Aros. Mae ein Rhestr Aros yn gweithredu ar sail ‘y cyntaf i’r felin’ fodd bynnag a rhoddir blaenoriaeth i blant sydd â brodyr a chwiorydd sy’n mynychu Ysgol Sefydledig Caergeiliog ar hyn o bryd.
Mae gennym ymrwymiad i
• ddarparu amgylchedd diogel, croesawgar a hapus i blant rhwng 6 mis a 3 oed.
• ddarparu profiadau o safon i blant 0 i 3 oed.
• alluogi pob plentyn i ddod yn unigolyn hyderus, yn gyfrannwr effeithiol, yn ddysgwr llwyddiannus ac yn ddinesydd cyfrifol.
Mae lles plant a phobl ifanc wrth galon ein darpariaeth ac felly ein nod yw:
• trin pob plentyn fel unigolyn a chwrdd ag anghenion ychwanegol beth bynnag fo'i ryw, hil, cenedligrwydd a diwylliant heb wahaniaethu.
• annog cyfleoedd cyfartal i'r holl blant ac oedolion sy'n ymwneud â'r feithrinfa.
• cydnabod gwerth mewnbwn rhieni a’u hannog i gymryd rhan yn addysg eu plant.
• hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol trwy ganmol, annog a bod yn sylwgar i anghenion y plant.
• asesu'n barhaus y canllawiau sydd ar gael o bob ffynhonnell, yn enwedig adrannau'r llywodraeth a meddu ar yr arfer orau ym mhob maes.
• gwerthfawrogi'r holl staff a sicrhau y rhoddir pob cyfle i bob aelod o staff i ddatblygu eu sgiliau personol ac ehangu eu gwybodaeth a'u sgiliau wrth ofalu am eich plant a'u haddysgu.
Chi, fel rhieni, yw prif addysgwyr eich plant yn eu blynyddoedd cynharaf. Rydym felly yn croesawu ac yn annog rhieni i gymryd rhan ym my y feithrinfa.
Mae gennym bolisi ‘drws agored’ ac mae aelodau o staff bob amser ar gael i wrando ar eich sylwadau a’ch awgrymiadau.
Mae cyfathrebu effeithiol rhwng rhieni a staff y feithrinfa yn bwysig er mwyn darparu’r gofal gorau posibl i’ch plant. Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech roi gwybod i staff y feithrinfa am unrhyw amgylchiadau, naill ai dros dro neu’n barhaol, a allai effeithio ar les emosiynol neu gorfforol eich plentyn er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn cael cymorth ychwanegol os oes angen. Bydd aelod o staff ar gael i siarad â chi yn ddyddiol i drafod cynnydd eich plentyn ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Byddwch yn cael gwybod am unrhyw ddigwyddiadau a gweithgareddau fydd yn mynd ymlaen yn y feithrinfa trwy ein hysbysfwrdd yn y cyntedd, cylchlythyrau a thrwy ein gwefan.