Taith Diwedd Tymor Blwyddyn 6


Yr ydych yma: Gwybodaeth > Y Diweddaraf > Taith Diwedd Tymor Blwyddyn 6

Ymwelodd Blwyddyn 6 â Pharc Saffari Knowsley gan fwynhau diwrnod i’w gofio yno. Cafodd y dysgwyr gyfle i weld amrywiol anifeiliaid o wahanol rannau o'r byd gan ddysgu am eu hamgylchedd a'u hanawsterau  cadwraethol.

Bu’r daith bum milltir drwy’r warchodfa gan ymweld â’r pum parth cyfandirol a’u cynefinoedd amrywiol yn bleserus ac  addysgiadol iawn.

Y mwncïod a'r llewod Affricanaidd yn amlwg oedd uchafbwynt y diwrnod! Roedd perfformiad y llewod a'r adar, yn ôl yr arfer, yn ardderchog gan arddangos eu deallusrwydd. Cyn dychwelyd i Gaergeiliog bu'n rhaid ymweld â'r siop i brynu cofroddion amrywiol i fynd adref.