Yr ydych yma: Gwybodaeth > Y Diweddaraf > Blwyddyn 6 – Gwersi Coginio
Fel rhan o’u gwaith thema ‘Beth yw Faciwî’ mae Blwyddyn 6 wedi bod yn coginio ryseitiau bwyd o’r cyfnod gan gynnwys gwneud Teisennau Cri/ Pice ar y Maen. Cafwyd llawer iawn o hwyl wrth i’r dysgwyr ymarfer ystod eang o sgiliau wrth goginio. Uchafbwynt y dasg wrth gwrs oedd cael blasu’r cynnyrch - a chafwyd fod yr ymdrech yn un gwerth chweil gan fod y Teisennau Cri yn flasus dros ben!