Adnabod Pryfaid Genwair


Yr ydych yma: Gwybodaeth > Y Diweddaraf > Adnabod Pryfaid Genwair

Bu Blwyddyn 6 yn chwilio am  bryfaid genwair ar dir yr ysgol gan ddysgu am eu cynefin a cheisio adnabod y gwahanol fathau o bryfaid genwair sy’n bodoli.  Maent yn greaduriaid hynod ddiddorol ac yn chwarae rhan hanfodol yn ein system eco. Bu’r dosbarth wedyn yn brysur iawn yn adeiladu gardd  ar eu cyfer a oedd yn haenau o dywod a phridd bob yn ail. Nid dyna oedd diwedd y dasg, roedd yn rhaid wedyn cofnodi’r wybodaeth mewn modd strwythuredig a rhesymegol  ar ffurf bas data. Trwy wneud hyn gall  pawb weld, ddarllen a deall y canlyniadau.