Yr Esgob William Morgan


Yr ydych yma: Gwybodaeth > Y Diweddaraf > Yr Esgob William Morgan

Roedd yn bleser gwahodd Llion Williams ar ran Cwmni Mewn Cymeriad i’r Ysgol i gyflwyno perfformiad rhyngweithiol o fywyd a gwaith yr Esgob William Morgan. Cafwyd disgrifiad hwyliog o Oes y Tuduriaid, magwraeth William Morgan yn Wybrnant a’i ddyrchafiad i fod yn Esgob Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Eglurwyd sut a pham yr aeth William Morgan ati i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg a pha effaith gafodd hyn ar Gymry’r cyfnod.