Yr ydych yma: Gwybodaeth > Y Diweddaraf > Rownd Derfynol Traws Gwlad Ysgol Gynradd Ynys Môn
Ddydd Iau Ebrill 27ain aeth y disgyblion oedd wedi cymhwyso ar gyfer rownd derfynol Traws Gwlad Ysgolion Cynradd Ynys Môn yn 2023 i Ganolfan Chwaraeon Plas Arthur yn Llangefni. Roedd pob rhedwr yn cystadlu am dlysau 1af, 2il a 3edd wobr ym mhob categori. Roedd pedwar categori – Merched Blwyddyn 3/4, Bechgyn Blwyddyn 3/4, Merched Blwyddyn 5/6 a Bechgyn Blwyddyn 5/6. Roedd y cwrs tua milltir o hyd.
Llongyfarchiadau i'r holl athletwyr!