Mabolgampau


Yr ydych yma: Gwybodaeth > Y Diweddaraf > Mabolgampau

Cynhaliwyd tri diwrnod gwych o gystadlaethau Mabolgampau ar gaeau'r ysgol yn ystod Mis Mehefin a phawb wedi mwynhau'r amrywiol  gystadlaethau a rasys unigol a thîm. Roedd yn fendigedig cael croesawu'r rhieni i ymuno â ni i gefnogi’r plant ac i fwynhau danteithion blasus. Bydd Gwasanaeth Gwobrwyo  arbennig i gydnabod ymdrech a buddugoliaeth  y disgyblion.