Gwthio Noddedig.


Yr ydych yma: Gwybodaeth > Y Diweddaraf > Gwthio Noddedig.

Bu disgyblion y Dosbarth Derbyn yn brysur iawn yr wythnos diwethaf yn codi arian at achosion da drwy feicio, mynd ar sgwter, gwthio pram neu deithio ar deganau o amgylch iard yr ysgol nifer penodol o weithiau. Roedd y disgyblion wedi cael eu noddi’n hael iawn gan eu rhieni a’u teuluoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn am bob ymdrech a wnaed gan y disgyblion ac am gefnogaeth arferol rhieni, teuluoedd a ffrindiau.