Ffair Nadolig


Yr ydych yma: Gwybodaeth > Y Diweddaraf > Ffair Nadolig

Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn rhodd o ategolion sgwter gan Sgwteri Micro. Mae Sgwteri Micro yn enwog am chwyldroi'r daith i'r ysgol, gan wneud y mynd a’r dod yn gyflymach, yn lanach, yn wyrddach, yn iachach ac yn fwy o hwyl.

Mae pob set yn cynnwys helmed, pen cymeriad a chynheswyr llaw a byddant yn cael eu harwerthu yn Ocsiwn Ffair Nadolig yr Ysgol ddydd Sadwrn Rhagfyr 2il.

Diolchwn yn garedig i Micro Scooters am eu haelioni.

  • Micro Scooters