Yr ydych yma: Gwybodaeth > Y Diweddaraf > Ennillwyr Cystadleuaeth Cardiau Nadolig
Sylw a wnaed gan Virginia Crosbie AS - Enillwyr Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig
FideoPleser o’r mwyaf oedd cyfarfod â Mia a Sara yn Ysgol Sefydledig Caergeiliog a chael llongyfarch y ddwy am ddod yn fuddugol ac yn ail yn fy Nghystadleuaeth Cerdyn Nadolig Blynyddol!
Mae dyluniad buddugol, gwych Mia wedi ei anfon i dros 2500 o fusnesau, sefydliadau ac unigolion ar draws yr ynys, heb unrhyw gost i’r etholwyr gan eu bod wedi ei noddi gan fusnesau lleol.
Mae Mia a Sara yn glod llwyr i'w hysgol ac roedd yn bleser sgwrsio â nhw.
Uchafbwynt y diwrnod oedd cael fy hudo gan wynebau hapus, ym Meithrinfa Ysgol Feithrin Caergeiliog, yn dweud wrthyf am eu rhestrau Nadolig! Dw i hefyd wedi cael gwahoddiad yn ôl i gael blasu un o giniawau hynod flasus Ysgol Caergeiliog.