Yr ydych yma: Gwybodaeth > Y Diweddaraf > Dydd Gwyl Dewi
Ar Fawrth 1af dathlwyd Dydd Gŵyl Dewi gydag urddas yn Ysgol Caergeiliog. Gwahoddwyd rhieni a chyfeillion i'r Ysgol i ymuno â’r disgyblion i gael tê traddodiadol Cymreig yn neuadd yr Ysgol. Gwerthfawrogwyd adloniant cerddorol a oedd yn gefndir i'r dathliadau ac ambell i gyhoeddiad, darlleniad ac anerchiad. Cafwyd prynhawn dymunol dros ben wrth ddathlu dydd ein nawddsant.