Diwrnod Roald Dahl


Yr ydych yma: Gwybodaeth > Y Diweddaraf > Diwrnod Roald Dahl

Bu disgyblion Ysgol Caergeiliog yn dathlu Diwrnod Roald Dahl ar Fedi 13eg sef diwrnod ei ben-blwydd. Roedd gweld y disgyblion wedi gwisgo fel ei hoff gymeriad o un o’i lyfrau yn werth eu gweld. Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig i’w gofio a chynhaliwyd  amryw weithgareddau yn ystod y dydd i ddathlu ei lwyddiant fel awdur anhygoel.

 Mae Diwrnod Stori Roald Dahl yn ddiwrnod sy'n ymroddedig i’r awdur arbennig yma. Mae'n ddiwrnod i’w gofio ef a'i holl gyflawniadau anhygoel.