Yr ydych yma: Gwybodaeth > Y Diweddaraf > Addurno Pwmpeni
Cynhaliwyd cystadleuaeth Addurno Pwmpen yn yr ysgol yn ystod y cyfnod Calan Gaeaf. Roedd yn gystadleuaeth anhygoel gyda chasgliad anferth o bwmpeni o bob siap a maint. Roedd yn amlwg fod y plant wedi cael hwyl yn cerfio ac addurno. Roedd gwobrau dirifedi yn cael eu cyflwyno a phawb wedi mwynhau’r achlysur.