Croeso cynnes i chi i wefan Ysgol Sefydledig Caergeiliog! Ymfalchïwn yn ein statws Sefydledig. Mae awyrgylch gyffrous ac ysgogol yn bodoli o fewn campws yr ysgol a phrif ffocws pob aelod o weithlu’r ysgol yw i sicrhau ‘Ansawdd a Rhagoriaeth o fewn Addysg’ a ‘Gwasanaeth o Ofal.’ Mae arwyddair yr ysgol yn deillio o’r Lladin sef ‘Persto et Praesto’ sy’n cyfieithu i olygu ‘Dyfal barhaf a Rhagoraf.’ Prif weledigaeth yr ysgol yw anelu yn ddyddiol at ragoriaeth tra yn ymlynnu hefyd at ddulliau addysgu sydd wedi eu profi. Cefnogwn yr iaith Gymraeg o fewn ei cyd-destun cymdeithasol. Hyrwyddir pob plentyn i fod yn ddinesydd dwyieithog hyderus.
*Mae croeso i chi ymweld â’r ysgol. *Ein dymuniad pennaf fel Ysgol yw i fagu partneriaeth lwyddiannus gyda chi’r rhieni a’r teulu ehangach.
* Cysylltwch â’r Ysgol os hoffech drefnu ymweliad
Mae’r ysgol yn falch o’i diwylliant sydd wedi ei sylfaenu ar hunanbarch a pharch at eraill. Rydym yn anelu i gynnig ‘y dechreuad gorau posibl’ a Sylfaen a fydd yn eu darparu i gydweithio gyda eraill yn yr ysgol, mewn addysg bellach ac yn y gymuned ehangach. Yn Ysgol Sefydledig Caergeiliog mae gweithlu awyddus, brwdfrydig a gweithgar sydd yn ddyddiol yn mynnu fod y safonau uchaf posibl yn cael eu cyflawni a’u cynnal. Craidd ein llwyddiant yw’r cydweithio a chydweithredu sy’n mynd ymlaen rhwng yr athrawon,y Llywodraethwyr, y rhieni a’r disgyblion. Annogir cyfraniad ein Prif Ddisgyblion ynghyd â’r Cyngor Ysgol ac aelodau’r holl Bwyllgorau eraill a chânt le amlwg yng ngweithrediad dyddiol yr ysgol. Gwerthfawrogir barn y dysgwyr ar safonau’r ysgol ac fe’i hannogir i hunan arfarnu yn gyson fel bod yr effaith yn gadarnhaol ar fywyd yr ysgol.