Crèche Blagur Haf


Yr ydych yma: Dosbarthiadau > Crèche Blagur Haf

Staff

Aelodau o staff: Melissa Connah, Samantha McNamara ac aelodau o Staff Cynorthwyol yr ysgol (Gweler Staff yr Ysgol)

Mae’r Ysgol wedi cynnig gwasanaeth i blant Meithrin ers 1982.

Yn y Crèche rydym yn cynnig gwasanaeth gofal ac addysg o ansawdd uchel i blant o 12 wythnos oed hyd at 5 mlwydd oed a hynny gan staff profiadol mewn awyrgylch hamddenol a gofalgar.

Lleolir Blagur Haf ar safle Ysgol Sefydledig Caergeiliog.

Manylion Cyswllt :

Ein cyfeiriad yw: Mrs Lindsea Roberts (Person Cofrestredig)

Meithrinfa Blagur Haf

Ysgol Sefydledig Caergeiliog

Lon Bach

Caergeiliog.

Ynys Môn

LL65 3NP

Rhif ffôn (01407) 740619

Oriau Agor:

  • Dydd Llun hyd Ddydd Gwener 7:30 y bore- 6:00 yr hwyr
  • Ar agor 50 wythnos y flwyddyn

Prisiau

Prisiau Creche Blagur Haf

Cewch ffurflen bwrpasol i drefnu Taliadau Rheolaidd ar gyfer taliadau misol. Dylid gwneud y taliadau – ymlaen llaw - ar ddiwrnod 1af o bob mis.

Byddem yn argymell eich bod yn ymweld â’r Crèche cyn ichi benderfynu rhoi eich plentyn i’n gofal. Yn dilyn eich ymweliad â Blagur Haf mae’r broses mynediad fel a ganlyn:

Byddwn yn gwirio a yw’r sesiynau y byddwch yn ddewis i’ch plentyn ar gael. Os yw’r sesiynau ar gael yna byddwn yn eich cyflwyno â Ffurflenni Cofrestru’r Uned.

Os nad yw’r sesiynau rydych yn dymuno ar gael yna gallwch ddewis i roi enw eich plentyn ar Restr Ddisgwyl. Bydd lle yn cael ei gynnig oddi yn ôl trefn gwneud cais

Cynigir lleoedd oddi ar y rhestr yn ôl y drefn y gofynnwyd amdanynt ond mae blaenoriaeth yn cael ei roi i ddysgwyr sydd â brodyr neu chwiorydd eisoes yn Ysgol Sefydledig Caergeiliog.

Nod ac Amcanion

  • cynnig awyrgylchddiogel,groesawus a hapus i blant o 12 wythnos oed hyd 5 oed
  • cynnig profiadau gwerthfawr i blant rhwng 0 a 3 oed.
  • dilyn Fframwaith Cyfnod Sylfaen i blant rhwng 3 a 5 oed er mwyn gallu cynnig gweithgareddau a phrofiadau o ansawdd i hyrwyddo datblygiad pob plentyn ym mhob un o’r 8 maes dysgu’r cwricwlwm.
  • galluogi bob plentyn i fod yn unigolyn hyderus, cyfrannwr effeithiol, dysgwr llwyddiannus a dinesydd cyfrifol.

Mae lles plant a phobl ifanc wrth galon ein darpariaeth ac felly rydym yn anelu i:

  • ymdrin â phob plentyn fel unigolyn gan ofalu am anghenion ychwanegol beth bynnag y rhyw, hil,cenedl a diwylliant a hynny yn ddiwahân.
  • hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bob plentyn ac oedolyn sy’n ymwneud â’r Uned.
  • cydnabod gwerth mewnbwn y rhieni gan eu hannog i rannu ym mhrofiadau dysgu eu plant.
  • asesu yn gyson y canllawiau sydd yn cael eu cynnig o wahanol ffynonellau, yn arbennig adrannau’r llywodraeth gan sicrhau ymarferiad gorau ym mhob agwedd.
  • gwerthfawrogi ein staff gan sicrhau fod cyfleoedd ar gael i bob aelod o staff ddatblygu ei sgiliau personol ac i ehangu ei gwybodaeth a’i sgiliau wrth iddynt ofalu ac addysgu eich plant.

Partneriaeth gyda Rhieni:

Chwi fel rhieni yw prif addysgwyr eich plant yn ystod y blynyddoedd cynnar. Rydym felly yn croesawu ac yn annog cyfraniad y rhieni yn yr Uned

Mae gennym bolisi ‘drws agored’ ac mae aelodau o staff bob amser ar gael i wrando ar eich sylwadau.

Mae cyfathrebu effeithiol rhwng rhieni a staff yr Uned yn holl bwysig er mwyn sicrhau’r gofal gorau posibl i’ch plant. Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech hysbysu staff yr Uned o unrhyw amgylchiad unai dros dro neu barhaol a allai amharu ar les emosiynol neu gorfforol fel y gallwn gynnig cefnogaeth ychwanegol os oes angen. Bydd aelod o staff ar gael yn ddyddiol i drafod cynnydd eich plentyn ac i ateb unrhyw gwestiynau.

Byddwch yn cael eich hysbysu yn gyson o unrhyw ddigwyddiadau a gweithgareddau fydd yn mynd ymlaen trwy gyfrwng ein Hysbysfwrdd wrth ddrws yr Uned, newyddlen a thrwy gyfrwng ein gwefan.

Llawlyfr